SL(6)312 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023

Cefndir a Diben

Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2023 ("y Gorchymyn hwn") yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”), sy'n dynodi cyrff mewn perthynas â Gweinidogion Cymru. Effaith y Gorchymyn hwn yw mewnosod pedwar corff pellach yn y rhestr o gyrff dynodedig sydd wedi’u cynnwys yn yr Atodlen i Orchymyn 2018. Diben dynodiad o'r fath yw galluogi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r adnoddau y disgwylir iddynt gael eu defnyddio gan gyrff o'r fath i gael ei chynnwys mewn cynnig Cyllidebol.

Yn unol â Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Thrysorlys Ei Fawrhydi ar y cyrff sydd i’w dynodi yn y Gorchymyn hwn.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Gorchymyn gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Gorchymyn o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu, neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’i gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn erthygl 2(2), mae "Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yn cael ei fewnosod yn y rhestr o gyrff dynodedig yn yr Atodlen i Orchymyn 2018.

Yn dilyn marwolaeth y Frenhines a'i holyniaeth gan Siarl III, mae'n ymddangos y dylid mewnosod “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru” yn lle.

Er i'r enw cyfreithiol "Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru" gael ei bennu i'r rôl gan adran 73(1) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2000, mae adran 10 o Ddeddf Dehongli 1978 yn nodi “In any Act a reference to the Sovereign reigning at the time of the passing of the Act is to be construed, unless the contrary intention appears, as a reference to the Sovereign for the time being.”

At hynny, disgrifir Owen Evans fel "Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru" ar wefan Estyn.

2.    Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn erthygl 2(2), yn y fersiwn Gymraeg, nid yw'r cyrff wedi eu rhestru'n gywir yn nhrefn yr wyddor. Dylai “Cyngor y Gweithlu Addysg” ddod cyn “Cymwysterau Cymru” am fod y llythyren "ng" yn dod o flaen y llythyren "m" yn yr wyddor Gymraeg. O ganlyniad, mae’r disgrifiad o’r gwelliant sy’n nodi y dylid mewnosod y cyrff yn y “lle priodol” yn aneglur.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae enw statudol y corff, sef
“Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”, fel y darperir ar ei gyfer yn adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, yn cael ei fewnosod yn gywir yn y rhestr o gyrff dynodedig yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018. O dan adrannau 10 a 23 o Ddeddf Dehongli 1978, mae’r cyfeiriad at y corff statudol hwn yn cael ei ddehongli fel “Prif Arolygydd Ei Fawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru”.

Pwynt Craffu Technegol 2: 

Mae erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yn defnyddio’r lluosog “yn y lleoedd priodol mewnosoder” ac “at the appropriate places insert”. Gan mai rhestr yn nhrefn yr wyddor yw’r Atodlen i Orchymyn 2018, bydd y pedwar corff a restrir yng Ngorchymyn 2023 yn cael eu mewnosod yn nhrefn yr wyddor yng Ngorchymyn 2018, ni waeth sut y maent yn ymddangos yng Ngorchymyn 2023. Mae’r hyn a fewnosodir yn glir felly.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

20 Ionawr 2023